Telerau ac amodau

Wrth ddefnyddio’r gwasanaeth hwn, rydych chi y cwsmer yn cadarnhau eich bod yn derbyn y telerau a’r amodau hyn ac yn cytuno i lynu wrthynt.

Mae'r Adran Drafnidiaeth (DfT) yn berchen ar y gwasanaeth ac mae’n cael ei weithredu gan yr Asiantaeth Trwyddedu Gyrwyr a Cherbydau (DVLA), Asiantaeth Weithredol DfT.

Mynediad i’r Gwasanaeth

Mae'r gwasanaeth hwn yn darparu offeryn ar-lein i ganiatáu i fodurwyr wirio a yw petrol E10 yn addas ar gyfer eu cerbyd. Bydd modurwyr yn gallu nodi gwneuthurwr (gwneuthuriad) eu cerbyd a chyflwynir rhestr o fodelau iddynt a fydd yn arddangos a yw’r petrol yn addas ar gyfer eu cerbyd ai peidio.

Terfyniad

Mae’r DfT yn cadw’r hawl i dynnu’r gwasanaeth hwn ar unrhyw adeg a heb rybudd ymlaen llaw.

Parhad gwasanaeth

Lle y bo’n bosibl, bydd DfT yn defnyddio ymdrechion rhesymol i sicrhau nad oes unrhyw doriad ym mharhad y gwasanaeth a bydd yn gwneud newidiadau’n unig pan y bo angen. Mae’n bosibl y ceir toriadau ar brydiau lle bydd angen gwneud camau uwchraddio hanfodol ar y gwasanaeth.

Ymwrthodiad

Nid yw DfT yn derbyn atebolrwydd am golled neu ddifrod a brofir gan ddefnyddwyr y gwasanaeth hwn, p’un ai’n uniongyrchol, anuniongyrchol neu’n ganlyniadol, p’un ai wedi’u hachosi gan gamwedd, torri cytundeb neu fel arall, mewn cysylltiad â’n gwasanaeth, ei ddefnyddio, methu â’i ddefnyddio, neu ganlyniadau defnyddio ein gwasanaeth, unrhyw wefannau sy’n gysylltiedig ag ef ac unrhyw ddeunyddiau a bostir arno. Mae hyn yn cynnwys colli:

Mae gwefannau neu dudalennau gwe y mae’r gwasanaeth hwn wedi’i gysylltu â nhw ar gyfer ddibenion gwybodaeth yn unig.

Nid yw DfT yn rheoli, cefnogi, noddi neu gymeradwyo cynnwys ar wefannau neu dudalennau o’r fath, oni bai lle y datgenir hynny’n uniongyrchol.

Nid yw DfT yn derbyn cyfrifoldeb neu atebolrwydd am unrhyw golledion neu gosbau a brofir o ganlyniad i chi’n defnyddio unrhyw ddolenni neu’n dibynnu ar gynnwys unrhyw wefan neu dudalennau gwe y mae’r gwasanaeth hwn wedi’i gysylltu â nhw.

Crëwyd y gwiriad petrol E10 gan yr Adran Drafnidiaeth a’r DVLA, gan ddefnyddio gwybodaeth a roddwyd gan yr European Automobile Manufacturers’s Association a’r Association and European Association of Motorcycle Manufacturers. Mae’r wybodaeth yn agored i newidiadau ac ni allwn warantu’i chywirdeb. Os oes darnau newydd wedi’u gosod ar eich cerbyd bydd hyn hefyd yn effeithio ar ei chywirdeb. Ni all DfT a’r DVLA warantu’r wybodaeth a roddir.

Os byddwch yn amau a yw cerbyd yn addas ar gyfer ei ddefnyddio gyda E10, edrychwch ar lyfryn cyfarwyddiadau eich cerbyd, y tu mewn i fflap llenwi tanwydd neu’n uniongyrchol gyda gwneuthurwr y car / beic modur / sgwter. Os ydych dal yn ansicr neu’n methu â defnyddio E10, rydym yn argymell eich bod yn parhau i ddefnyddio petrol E5, a fydd ar gael o hyd yn y radd “Super” o sawl gorsaf betrol.

Nid yw DfT, y DVLA a’u partneriaid yn derbyn unrhyw atebolrwydd am unrhyw ddifrod o ganlyniad i neu mewn cysylltiad â ddefnyddio gwiriad petrol E10 neu mewn cysylltiad a’i ddefnyddio.

Offer arall a yrrir gan betrol -

I ddeall addasrwydd offer a yrrir gan betrol yn hytrach na cheir neu feiciau modur, megis peiriannau lladd gwair, peiriannau coedwigaeth, awyrennau ysgafn a chychod modur rydym yn argymell edrych ar y llawlyfr neu’r arweinlyfr neu gysylltu â’r gwneuthurwr. Os ydych dal yn ansicr, rydym yn argymell eich bod yn parhau i ddefnyddio petrol E5, a fydd ar gael o hyd yn y radd “Super” o sawl gorsaf betrol.

Cwcis a Phreifatrwydd

Rydym yn casglu gwybodaeth amdanoch yn unol â’n polisi preifatrwydd a’n polisi cwcis. Cyfeiriwch at y polisïau hyn am wybodaeth bellach.

Diogelu rhag firysau

Bydd DfT yn gwneud pob ymdrech i wirio a phrofi deunydd ar bob cam o gynhyrchu. Fodd bynnag, mae’n rhaid ichi y cwsmer gymryd eich camau diogelwch eich hun i sicrhau nad yw’r broses a ddefnyddir gennych i asesu'r gwasanaeth hwn yn eich gwneud chi y cwsmer yn agored i risg firysau, cod cyfrifiadur maleisus neu fathau eraill o ymyriant a allai niweidio eich dyfais.

Nid yw DfT yn derbyn cyfrifoldeb am unrhyw golled, amhariad neu ddifrod i’ch data neu’ch dyfais a all ddigwydd tra’n defnyddio deunydd sy’n tarddu o’r gwasanaeth hwn.

Firysau, hacio a throseddau eraill

Os byddwch chi y cwsmer yn camddefnyddio’r gwasanaeth wrth gyflwyno’n fwriadol firysau, ymwelwyr diwahoddiad, mwydod, bomiau rhesymeg neu ddeunydd arall sy’n faleisus neu’n niweidiol yn dechnolegol, neu’n ceisio cael mynediad anawdurdodedig i’r gwasanaeth neu unrhyw weinydd, cyfrifiadur neu fas data sy’n gysylltiedig â DfT, ymosod ar ein gwasanaeth trwy ymosodiad atal gwasanaeth neu ymosodiad atal gwasanaeth a ddosberthir, byddech chi y cwsmer yn cyflawni trosedd droseddol o dan Ddeddf Camddefnyddio Cyfrifiaduron 1990. Bydd DfT yn dweud wrth yr awdurdodau gorfodi’r gyfraith perthnasol am unrhyw dor-rheolau o’r fath a gall gydweithio â’r awdurdodau hynny wrth ddatgelu gwybodaeth amdanoch iddynt.

Hawlfraint ac atgynhyrchu

Mae’r deunydd a ddangosir ar y wefan hon yn ddarostyngedig i ddiogelwch hawlfraint y Goron oni bai y nodir yn wahanol. Darllenwch dudalen hawlfraint y goron i gael rhagor o wybodaeth.

Ni chaniateir ichi y cwsmer addasu neu gyfaddasu’r Wybodaeth, bydd unrhyw ymgais i wneud hynny’n golygu torri’r telerau a’r amodau hyn.

Mae'r enwau, delweddau a logos sy’n adnabod DfT/DVLA yn farciau perchnogol DfT/DVLA. Ni chaniateir copïo logos DfT/DVLA ac unrhyw logos trydydd parti eraill a gyrchwyd trwy’r wefan hon heb gymeradwyaeth flaenorol gan y perchennog hawlfraint perthnasol.

Newidiadau

Mae DfT yn cadw’r hawl, ar ei ddisgresiwn ei hun, i wneud newidiadau i unrhyw ran o’r gwasanaeth hwn, y wybodaeth, neu’r telerau a’r amodau hyn ar unrhyw adeg. Petai DfT yn newid y telerau a’r amodau hyn, bydd copi wedi’i ddiweddaru ar gael ar y dudalen hon.

Toradwyedd

Os ystyrir unrhyw un o’r telerau a’r amodau hyn yn annilys, yn anorfodadwy neu’n anghyfreithlon am unrhyw reswm, bydd y telerau a’r amodau sy’n weddill fodd bynnag yn aros mewn grym llawn.

Os bydd DfT yn ildio unrhyw hawliau sydd ar gael iddi o dan y telerau a’r amodau hyn ar un adeg, nid yw hyn yn golygu yr ildir yr hawliau hynny’n awtomatig ar unrhyw adeg arall.

Digwyddiadau y tu hwnt i reolaeth y DVLA

Nid yw DfT a’r DVLA yn derbyn unrhyw atebolrwydd am fethu â chydymffurfio â’r telerau a’r amodau hyn lle mae methiant o’r fath oherwydd amgylchiad y tu hwnt i’w rheolaeth resymol. Os bydd DfT/DVLA yn ildio unrhyw hawliau sydd ar gael iddi o dan y telerau a’r amodau hyn ar un adeg, nid yw hyn yn golygu yr ildir yr hawliau hynny’n awtomatig ar unrhyw adeg arall.

Cyfraith lywodraethol

Llywodraethir yr holl delerau a’r amodau hyn gan a’u dehongli yn unol â deddfau Cymru a Lloegr. Bydd unrhyw anghydfod sy’n codi o dan y telerau a’r amodau hyn yn ddarostyngedig i awdurdodaeth Llysoedd Lloegr a Chymru’n unig.