Mazda

Rhoddwyd caniatâd i ddefnyddio petrol E10 ymhob cerbyd Mazda ag injan petrol, fel y nodwyd isod:

  • Pob model Mazda6 o 2002 (model GG/GY) ymlaen.
  • Pob model Mazda2 o 2003 (model DY) ymlaen.
  • Pob model Mazda3 o 2003 (model BK) ymlaen.
  • Pob model Mazda5 o 2004 (model CR) ymlaen.
  • Pob model MX-5 o 2005 (model NC) ymlaen.
  • Pob model RX-8 o 2002 (model SE) ymlaen.
  • Pob model Mazda CX-3
  • Pob model Mazda CX-30.
  • Pob model Mazda CX-5.
  • Pob model Mazda CX-7.
  • Pob model Mazda CX-9.
  • Pob model Mazda BT-50 o 2006 ymlaen.

Mae angen petrol sy’n cynnwys ethanol 5% neu lai ar y modelau cynharach eraill.

Nid wyf dal yn siŵr os yw fy ngherbyd yn cydymffurfio ag E10

Os ydych yn ansicr os allwch ddefnyddio E10 yn eich cerbyd:

  • gwiriwch lawlyfr perchennog y cerbyd, mae’r llyfryn cyfarwyddiadau yn benodol i’ch cerbyd chi
  • edrychwch y tu mewn i’r fflap llenwi tanwydd
  • gofynnwch i wneuthurwr y car, beic modur neu sgwter / deliwr lleol

Os ydych dal yn ansicr defnyddiwch betrol E5. Bydd hwn dal ar gael yn y radd uwch mewn nifer o orsafoedd llenwi.

Dychwelyd i GOV.UK

Chwilio am gerbyd arall