Fiat

Rhoddwyd caniatâd i ddefnyddio petrol E10 ar gyfer pob cerbyd Fiat ag injans petrol gan gychwyn o Ionawr 1af 2001 (lefel allyriadau Ewro 3), ac eithrio’r cerbydau canlynol:

  • Barchetta: 1.8 litr
  • Bravo/Brava (Math 182): 1.6 litr
  • Doblò: 1.6 litr
  • Marea: 1.6 a 2.0 litr
  • Multipla: 1.6 litr
  • Palio: 1.6 litr
  • Punto (Math 188): 1.8 litr
  • Stilo: 1.6 litr (unig ddadleoliad 1.596 cm3), Stilo 1.8 litr a Stilo 2.4 litr

Dylai perchnogion y cerbydau hyn a cheir Fiat o cyn 2001 barhau i ddefnyddio petrol E5.

Nid wyf dal yn siŵr os yw fy ngherbyd yn cydymffurfio ag E10

Os ydych yn ansicr os allwch ddefnyddio E10 yn eich cerbyd:

  • gwiriwch lawlyfr perchennog y cerbyd, mae’r llyfryn cyfarwyddiadau yn benodol i’ch cerbyd chi
  • edrychwch y tu mewn i’r fflap llenwi tanwydd
  • gofynnwch i wneuthurwr y car, beic modur neu sgwter / deliwr lleol

Os ydych dal yn ansicr defnyddiwch betrol E5. Bydd hwn dal ar gael yn y radd uwch mewn nifer o orsafoedd llenwi.

Dychwelyd i GOV.UK

Chwilio am gerbyd arall