Škoda
Rhoddwyd caniatâd i ddefnyddio petrol E10 yn yr holl gerbydau ŠKODA canlynol ag injans petrol gyda’r eithriadau canlynol:
* Felicia injans OHV 1.3 litr (40kw a 50kW) yn y blynyddoedd cynhyrchu 1994 i 2001
* Modelau ŠKODA eraill sy’n defnyddio injans OHV 1.3 litr a gynhyrchwyd cyn 1994.
NODER: Os rhestrir eich cerbyd uchod dylech barhau i ddefnyddio petrol E5. Os nad ydych yn siŵr cysylltwch â’ch gwerthwr ceir Škoda lleol.